|
Rhif y ddeiseb: P-06-1464 Teitl y ddeiseb: Caniatáu i deuluoedd Cymru sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos gael tystysgrif colli baban Geiriad y ddeiseb: Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno tystysgrifau colli baban i deuluoedd yn Lloegr sydd wedi colli babanod cyn 24 wythnos. Nid yw hyn yn gymwys i deuluoedd Cymru. Gadewch i ni newid hyn!! |
Lansiodd Llywodraeth y DU gynllun ar 22 Chwefror 2024 i alluogi rhieni y bu farw eu baban cyn 24 wythnos o feichiogrwydd i wneud cais am dystysgrif am ddim i gydnabod eu colled. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed o leiaf, a rhaid iddynt fod yn byw yn Lloegr. Mae’r dystysgrif yn ddogfen swyddogol, ond nid yw’n ddogfen gyfreithiol.
Yn wreiddiol, roedd y dystysgrif ar gael i unrhyw riant a oedd wedi colli baban ers 1 Medi 2018. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU bellach wedi cael gwared ar y cyfyngiad hwn.
Mae ymgyrchwyr yn galw am gyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru.
Yn yr Alban, gall rhieni sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos o feichiogrwydd wneud cais i gofnodi eu baban yn y Llyfr Coffa ar gyfer beichiogrwydd a cholli baban. Maent yn cael tystysgrif goffa yn sgil y cofnod hwn.
Mae Aelodau o’r Senedd wedi holi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn ar sawl achlysur.
Ar 23 Ebrill 2024, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd:
On 22 February, the UK Government launched a voluntary scheme to allow parents whose baby died before 24 weeks of pregnancy to apply for a free certificate to provide recognition of their loss. This is currently available to any parent who has experienced a loss before 24 weeks in England since 1 September 2018. The UK Government plans to extend the eligibility criteria and remove the existing time limit when it is able to do so. My officials are working closely with their UK counterparts to explore how the scheme could be extended to Wales.
Currently, all families who experience pregnancy loss at maternity units in Wales are supported by bereavement midwives and, in conjunction with the Sands charity, are offered memory boxes, which include a commemorative “birth certificate”. We are also collaborating with parent organisations, including Sands and experts in this area, to implement the National Bereavement Care Pathways across Wales specifically for miscarriage, stillbirth and pregnancy loss.
Mewn ymateb i'r ddeiseb, ailadroddodd Llywodraeth Cymru y ffaith bod swyddogion yn gweithio'n agos â’u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i archwilio sut y gallai'r cynllun sy'n cael ei ddarparu yn Lloegr gael ei ymestyn i Gymru. Dywed y Llywodraeth:
Rydym yn cydnabod bod angen gwneud gwelliannau i'r gofal a'r cymorth profedigaeth sydd ar gael ledled Cymru, gan gynnwys ar gyfer colled yn gynnar yn ystod y beichiogrwydd. Rydym wedi rhoi cyllid i Weithrediaeth y GIG i weithio gyda sefydliadau, gan gynnwys Sands ac arbenigwyr yn y maes hwn, i weithredu'r llwybrau gofal profedigaeth cenedlaethol ar draws Cymru, yn benodol ar gyfer camesgoriad, marw-enedigaeth, a cholli babi.
Yn gynharach eleni, fe wnaethom gomisiynu Sands i gynnal cyfres o 'ddigwyddiadau gwrando' ledled Cymru gyda theuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth a staff sydd wedi eu cefnogi a rhoi gofal iddynt. Bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu i ddatblygu llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol sy'n benodol i Gymru. Rydym yn disgwyl y bydd cam dau – datblygu a chyflwyno'r llwybrau gofal ar gyfer beichiogrwydd a cholli babi – yn dechrau yn ystod y misoedd nesaf.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |